[AD] Rwy’n gwella fy rhagolygon gyrfa gyda Cymru’n Gweithio er mwyn i mi allu newid fy stori

January 17, 2022

Mae fy ngwraig a minnau gyda’n gilydd ers dwy flynedd ar bymtheg. Yn sicr, mae rhai cyfnodau o straen wedi bod dros y blynyddoedd. Er enghraifft, pan ddaethom yn rhieni i efeilliaid sydd bellach yn naw oed. 

2021 yn bendant oedd y flwyddyn fwyaf llawn straen, ond hefyd y flwyddyn fwyaf cyffrous o’n cyfnod gyda’n gilydd. Ar ôl blynyddoedd lawer o rentu, rydym o’r diwedd wedi llwyddo i brynu ein cartref cyntaf, er bod angen ei adnewyddu’n llwyr. 

Doeddwn i ddim yn poeni am hyn oherwydd byddai fy ugain mlynedd a mwy o brofiad fel peintiwr ac addurnwr yn fy ngalluogi i adnewyddu ein cartref newydd. Rydw i’n dda gyda fy nwylo, ac roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n gallu gwneud llawer o’r tasgau angenrheidiol. Er enghraifft, roedd angen cegin newydd ac roeddwn i’n gwybod na fyddai hyn yn broblem. Yn anffodus, er fy mod yn gallu troi fy llaw at lawer o dasgau, bu’n rhaid i mi gyflogi crefftwyr i wneud rhai ohonynt, fel gwaith plastro a gwaith trydanol. 

Fy nodau gyrfa ar gyfer 2022 

Ar ddechrau 2022 fel hyn, rwyf wedi penderfynu gosod nodau gyrfa i mi fy hun er mwyn gwella’r gwasanaethau y gallaf eu cynnig i’m cleientiaid. Fy nod ar gyfer 2022 yw rhoi gwasanaeth mwy cyflawn i’m cleientiaid, yn ogystal â’r paentio a’r addurno. Ar ôl adnewyddu ein cartref, rwyf wedi penderfynu fy mod eisiau dysgu plastro a sgiliau trydanol sylfaenol. 

Sut mae cynllunio i gyrraedd fy nodau gyrfa ar gyfer 2022? 

Rwy’n ffodus iawn o fyw a gweithio yng Nghymru. Y rheswm am hynny yw bod ganddynt wasanaeth am ddim o’r enw Cymru’n Gweithio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd Cymru’n Gweithio yn fy helpu i gael cyngor ac arweiniad am ddim a bydd yn rhoi mynediad i mi at gyrsiau er mwyn i mi allu datblygu fy ngyrfa a dysgu sgiliau newydd fel plastro a gwaith trydanol. Fy nod ar gyfer 2022 yw cael mynediad at gyrsiau lle gallaf ddysgu’r sgiliau newydd hyn a chynnig gwasanaethau newydd i’m cleientiaid. Felly, yn ogystal â phaentio ac addurno, byddaf yn cynnig gwasanaeth mwy cyflawn. 

Beth all Cymru’n Gweithio ei wneud i chi? 

Nod Cymru’n Gweithio yw ysbrydoli pobl i newid eu stori drwy gyfnod sydd wedi bod yn anodd, heriol a newidiol. Os ydych chi’n chwilio am swydd newydd, gallech gael help i ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol, ynghyd â dysgu technegau cyfweliad. Gallant hefyd ddod o hyd i gyrsiau a cyfleoedd dysgu sy’n addas i chi, yn ogystal â chymorth gyda thaliadau dileu swydd. Gallech chi hefyd gael gwybod am gyllid ar gyfer hyfforddiant. 

Os ydych chi dros 25 oed ac eisiau newid eich stori ni waeth ble rydych chi arni yn eich gyrfa, gall Cymru’n Gweithio roi cyngor ac arweiniad am ddim i chi. Byddant yn eich helpu i gael mynediad at swyddi a hyfforddiant. Bydd Cymru’n Gweithio yn eich cefnogi i’r cyfeiriad rydych chi am i’ch gyrfa fynd. 

Felly, os ydych chi’n awyddus i newid eich stori ac rydych yn byw yng Nghymru ac angen cymorth a chyngor, ewch i Cymru’n Gweithio os ydych chi eisiau newid neu wella eich llwybr gyrfa. Cewch eich ysbrydoli! https://cymrungweithio.llyw.cymru/ 

#CymrunGweithio #WorkingWales #newidystori #changeyourstory 

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Prev Post Next Post